SL(5)104 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 4) 2021
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (“y Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan ddod i rym o 4am 7 Rhagfyr 2021 ymlaen, fel bod:
· Rhaid i deithwyr dros oedran penodol sydd wedi'u brechu'n llawn sy'n cyrraedd Cymru o'r tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin gymryd prawf cyn ymadael yn awr (mae'r rhai sy'n teithio o wledydd ar y rhestr goch yn parhau i gael eu gwahardd rhag teithio i Gymru) oni bai eu bod yn bodloni esemptiadau penodol;
· Mae'r trothwy oedran ar gyfer cymhwyso'r gofyniad uchod wedi newid o 11 oed i 12 oed;
· Mae'r amser pan fo rhaid cymryd prawf cyn ymadael wedi’i leihau i ddim mwy na 48 awr cyn ymadael.
Cyn i'r diwygiadau hyn ddod i rym, y sefyllfa oedd:
· Nid oedd angen i deithwyr a oedd wedi’u brechu’n yn llawn gymryd prawf cyn gadael;
· Y trothwy oedran ar gyfer cymhwyso'r gofyniad i deithwyr heb eu brechu gymryd prawf cyn gadael oedd 11 oed;
· Yr amser pan roedd yn rhaid cymryd prawf cyn ymadael oedd dim mwy na 72 awr cyn ymadael.
Mae'r newidiadau'n cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r bygythiad i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i amrywiolyn Omicron, a allai gael mwy o effaith ar bobl sydd wedi'u brechu nag amrywiolion presennol.
O ganlyniad i'r newidiadau hyn i'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gwneir newidiadau canlyniadol i'r Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei darparu i deithwyr.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fydd y Senedd: (i) wedi'i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y tri phwynt technegol a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 6 Rhagfyr 2021.
“Trwy beidio â chydymffurfio â’r confensiwn 21 diwrnod, bydd modd i’r Rheoliadau hyn ddod i rym cyn gynted ag y bo modd a pharhau â'r dull pedair gwlad o ymdrin â theithio rhyngwladol; o ystyried y newid yn y dystiolaeth ynglŷn â’r risg mewn perthynas â'r clefyd hwn, ystyrir bod hyn yn angenrheidiol ac yn gyfiawn yn yr achos hwn.”
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“Nid yw’r diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn newid y ffaith bod y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol; mae’r Llywodraeth o’r farn y gellir eu cyfiawnhau at ddiben atal lledaeniad clefydau heintus a/neu y caniateir ymyriad ar y sail ei fod yn anelu at gyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth o’r farn hefyd eu bod yn gymesur.”
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodwn na chafwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“O ystyried y bygythiad difrifol ac uniongyrchol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd y cyhoedd brys, nid oes ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Rhagfyr 2021